Ddysgu Digidol
yn YDDS

Croeso

Felly beth yn union yw’r adnodd hwn?

Mae’r canllaw hwn wedi’i greu i gynorthwyo myfyrwyr wrth iddynt ddysgu ar-lein ac yn ddigidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rydym wedi creu’r canllaw i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich addysgu yma yn y Drindod Dewi Sant.

Mae’r canllaw hwn wedi’i rannu’n dair prif adran, y gallwch ei weld trwy ddefnyddio’r bar llywio ar waelod y dudalen neu trwy ddefnyddio’r ddewislen ar frig y dudalen. Gallwch hefyd lawrlwytho ein rhestr wirio i olrhain eich cynnydd wrth i chi weithio trwy’r canllaw.

P’un ai ydych yn fyfyriwr newydd neu gyfredol, mae’n bwysig eich bod yn cymryd amser i ddarllen trwy’r adnodd cyfan – er y bydd peth o’r wybodaeth yn gyfarwydd i chi, mae’n debygol y bydd gwybodaeth hefyd am gymorth, adnoddau ac addysgu nad ydych wedi’i gweld o’r blaen.

Cysylltu

Dysgu am yr offer sydd ei angen arnoch, y meddalwedd a’r rhaglenni y dylech fod yn eu defnyddio, a’r adnoddau y gallwch eu cyrchu i’ch helpu.

Ddysgu Digidol

Deall mwy am ddysgu digidol ar-lein a sut mae’n edrych, dod i adnabod y gwahanol ddulliau o ddysgu ar-lein, ac ymgyfarwyddo â’r offer y dylech fod yn ei ddefnyddio.

Adnoddau Sgiliau Astudio

Darganfod yr amrywiaeth eang o gymorth ac adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich astudio.

Angen help arnoch?

Dyma ble gallwch ddod o hyd i gymorth

Mae ystod eang o bobl yn y Brifysgol all gynnig cymorth, cefnogaeth ac arweiniad ar y materion y gallech eu hwynebu yn ystod eich astudiaethau. Rydym wedi tynnu sylw at rai o’r gwasanaethau allweddol yma i roi syniad i chi o’r gwahanol fathau o gymorth rydyn ni’n eu cynnig, ac felly gallwch nodi unrhyw fanylion cyswllt pwysig. Os cewch chi unrhyw broblemau yn ymwneud â chynnwys yr adnodd hwn, yna mae croeso i chi gysylltu â ni am gymorth.

Os ydych yn fyfyriwr yn Birmingham neu Lundain, gwiriwch hefyd y wefan briodol, bwrpasol am wybodaeth cefnogi benodol i chi fel myfyriwr YDDS. Ewch i uwtsdlondon.ac.uk neu www.uwtsd.ac.uk/birmingham am fwy o wybodaeth.

Mae Tiwtoriaid Cymorth Academaidd yn rhan annatod o fywyd Prifysgol yn y Drindod Dewi Sant a’u pwrpas yw eich helpu i wneud y mwyaf o’ch amser yma. Gall eich Tiwtor Cymorth Academaidd eich cefnogi yn eich astudiaethau, eich datblygiad personol a phroffesiynol, a’ch helpu i ystyried eich opsiynau i’r dyfodol.

Gall eich Tiwtor Cymorth Academaidd eich helpu i ddelio gyda rhai o’r heriau y gallech eu hwynebu yn ystod eich astudiaethau trwy fod y pwynt cyswllt cyntaf hwnnw, trwy wrando a’ch cyfeirio i’r gwasanaethau cefnogi priodol.

Gwasanaeth cymorth proffesiynol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd o ansawdd uchel ynghyd â chymorth ymarferol ac emosiynol er mwyn galluogi'r holl fyfyrwyr i gyrraedd eu potensial llawn.

Mae gennym amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi’u neilltuo i ddarparu cymorth arbenigol a’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar fywyd myfyrwyr. Ymhlith y rhain mae:

  • Gwasanaeth Gyrfaoedd
  • Gwasanaeth Cwnsela
  • Cymorth Ariannol
  • Cymorth i Fyfyrwyr Rhyngwladol
  • Gwasanaeth Ymgynghorol Iechyd Meddwl
  • Sesiynau PASS (Sesiynau astudio gyda chymorth cymheiriaid)
  • Gwasanaethau i Fyfyrwyr ag anableddau
  • Llesiant Myfyrwyr

Mae Adnoddau Llyfrgell a Dysgu Mae Adnoddau Llyfrgell a Dysgu yn cynnig cyfoeth o adnoddau dysgu print ac ar-lein, cymorth arbenigol ar gyfer sgiliau academaidd a digidol ac amrywiaeth o fannau dysgu hyblyg i ddarparu ar gyfer beth bynnag yr ydych yn ei wneud.

Mae ein hadranHanfodion Myfyrwyryn cynnwys ein Rhaglen Sgiliau Gwybodaeth i helpu i wella eich sgiliau academaidd a gwybodaeth, y DigiCentre i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, Llawlyfrau Cyfeirio'r Brifysgol, a'ch rhestr adnoddau ar-lein, sy'n rhoi mynediad i chi i'r holl waith darllen a dysgu arall. adnoddau ar gyfer eich cwrs. I gael cymorth arbenigol pellach, mae eich Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd a Chynghorydd Sgiliau Digidol bob amser ar gael.

Yn ein hadran Cymorth a Chefnogaeth fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ymuno â’n llyfrgelloedd yn PCYDDS a’u defnyddio, ein Siarter Cwsmeriaid a’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i staff ac aelodau allanol.

Mae’r Ddesg Gymorth TG yn cynnig cymorth ac arweiniad technegol ar nifer o bynciau gan gynnwys meddalwedd i’w defnyddio gartref, cymorth TG o bell, a manteisio ar wasanaethau TG. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalennau cymorth TaSG ar ein gwefan.

Mae cyngor a chymorth ar gael 24/7 gan y Ddesg Wasanaeth TG: +44 (0) 300 500 5055 neu gallwch gyflwyno tocyn trwy ein Desg Wasanaeth TG ar-lein @ ServiceNow

Rhestr Wirio

Cadw golwg ar eich cynnydd

Mae llawer o wybodaeth yn yr adnodd hwn, felly rydyn ni wedi creu rhestr wirio y gallwch ei hargraffu i gadw golwg ar eich cynnydd wrth i chi weithio trwy bob un o’r adrannau.

Cliciwch y botwm lawrlwytho isod i gadw copi.

Lawrlwytho’r rhestr wirio