Dysgu ac
Addysgu Digidol

Cyflwyniad

Efallai bod dysgu ar-lein yn brofiad gwbl newydd i lawer ohonoch. Oherwydd hynny, rydym eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn y sefyllfa orau posibl ar gyfer yr ymagwedd hon a’ch bod yn gwybod beth a ddisgwylir gennych. I’r rheiny sydd wedi cael profiad o’r ymagwedd hon yn barod, defnyddiwch y canllaw hwn i’ch atgoffa o’r arferion gorau.

Mae’n bosibl y byddwch wedi gweld yn barod bod llawer o addysgu’n mynd i gael ei gyflwyno mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol eleni. Fe fydd sesiynau byw, sesiynau a recordiwyd ymlaen llaw, gweithgareddau ar-lein, trafodaethau grŵp a sesiynau tiwtorial rhyngweithiol.

Golyga’r ymagwedd gyfun hon ein bod yn defnyddio technoleg i greu gweithgareddau dysgu cynhwysol a diddorol, ac yna’n defnyddio sesiynau byw neu wyneb yn wyneb i adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth. Mae’n golygu y byddwch yn cymryd rhan fwy gweithredol yn eich dysgu eich hun ac fe fyddwn yn annog yn weithredol ymagwedd bartneriaeth at hyn i sicrhau bod llais y myfyriwr yn cael ei glywed.

Isod, rydym yn mynd i edrych ar rhai o’r prif ymagweddau sy’n cael eu defnyddio, a’r offer a fydd yn eich helpu i wneud yn fawr o’ch astudiaethau.

Sgiliau Digidol

Sicrhau y gallwch wneud y gorau o Ddysgu Digidol

Offeryn yw’r Fframwaith Sgiliau Digidol i’ch helpu i werthuso eich lefelau presennol o allu digidol, myfyrio ar eich anghenion datblygu, cynllunio eich llwybr datblygu a dod o hyd i adnoddau i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.

Gall y fframwaith gael ei ddefnyddio gan holl staff a myfyrwyr y Brifysgol gan gynnwys dysgwyr, athrawon, ymchwilwyr, a staff gwasanaethau proffesiynol.

Mae datblygu sgiliau digidol ein myfyrwyr ar flaen y gad yn strategaeth y Brifysgol ac mae’n sail i lawer o weithgareddau’r Brifysgol gan gynnwys ymdrech y sefydliad tuag at ddysgu cyfunol.

I chi fel myfyriwr yn PCYDDS, byddwn yn darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau digidol ar gyfer eich cyfnod yn y Brifysgol a thu hwnt, boed fel rhan o addysgu cwricwlaidd neu drwy ddysgu annibynnol y tu hwnt i’ch prif raglen astudio.

Ewch i wefan bwrpasol y Fframwaith Sgiliau Digidol i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio'r fframwaith, gan gynnwys defnyddio Offeryn Darganfod Jisc sy'n holiadur hunanasesu i werthuso eich lefelau sgiliau digidol presennol.

Gwneud y gorau o Ddysgu Digidol

Rydym yma i'ch cefnogi gyda'ch holl anghenion sgiliau digidol.Mae gan y DigiCentre amrywiaeth o adnoddau y gallwch eu defnyddio i uwchsgilio eich hun mewn 6 maes o allu digidol.Y rhain yw:

  • Hyfedredd digidol a chynhyrchiant.
  • Llythrennedd gwybodaeth, data a chyfryngau.
  • Creu digidol, datrys problemau ac arloesi.
  • Cyfathrebu digidol, cydweithredu a chyfranogiad.
  • Dysgu a datblygu digidol.
  • Hunaniaeth ddigidol a lles.

Gallwch uwchsgilio eich hun gan ddefnyddio ein llwybrau dysgu a argymhellir yn Moodle, lle gallwch hefyd wneud cais am amrywiaeth o fathodynnau digidol.Neu gallwch ddefnyddio ein Darganfyddwr Adnoddau Sgiliau Digidol i’ch helpu i ddarganfod ystod o offer ac adnoddau digidol i’ch helpu gyda’ch astudiaethau.

Ewch i wefan DigiCentre am ragor o wybodaeth, ac i ddarganfod pa gymorth a hyfforddiant pellach sydd ar gael. Dechreuwch trwy ymweld â'r Offeryn Hunanasesu ar gyfer myfyrwyr newydd i gael eich adroddiad sgiliau personol a nodi'r hyn rydych chi'n ei wneud yn dda a'r hyn sydd angen i chi ei ddatblygu.

Ymweld â'r DigiCentre

Moodle

Dod yn gyfarwydd â’n hamgylchedd dysgu rhithwir

Moodle yw ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh). Dyma ble i fynd i gael holl adnoddau dysgu eich modylau, yn cynnwys recordiadau darlithoedd, Rhestrau Adnoddau Ar-lein, sleidiau a thaflenni darlithoedd, yn ogystal â llyfrynnau modylau. Yma hefyd y gallwch gyflwyno eich aseiniadau a’ch gwaith cwrs.

I gyrchu Moodle, ewch i moodle.uwtsd.ac.uk a mewngofnodi gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a chyfrinair rhwydwaith y Brifysgol.

Ystafelloedd dosbarth rhithwir

Mynychu darlithoedd a seminarau ar-lein

Darlithoedd a seminarau yw’r ffordd arferol o addysgu mewn prifysgolion, ond byddwch yn sylwi ar rai newidiadau wrth ddysgu’n ddigidol. Y gwahaniaeth mwyaf amlwg yw yn lle mynd i ddarlithfa mewn adeilad mae’n bosibl y bydd gofyn i chi fewngofnodi i system gynadledda fideo. Hefyd, mae’n debygol y bydd eich sesiynau’n fyrrach ac yn cael eu cynnal mewn grwpiau llai lle cewch fwy o gyfle i drafod a rhyngweithio.

Yn union fel y byddech yn ei wneud i baratoi i fynychu sesiwn addysgu wyneb yn wyneb, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod wedi paratoi’n llawn ar gyfer eich gwersi ar-lein.

Dyma awgrymiadau gwych i’ch helpu:

  • Sefydlwch fan astudio - dewch o hyd i rywle y gallwch eistedd yn gyfforddus, lle nad oes gormod o sŵn.
  • Profwch eich offer - Gwnewch yn siŵr bod eich rhyngrwyd yn gweithio, eich bod wedi cynnal awdurdodiad MFA os oes raid, ac wedi agor y cymhwysiad y byddwch yn ei ddefnyddio i ymgyfarwyddo ag ef.
  • Penderfynwch sut y byddwch yn gwneud nodiadau - A fyddwch chi’n defnyddio pin a phapur neu’n teipio eich nodiadau? Gwnewch benderfyniad ymlaen llaw a chadw ato.
  • Daliwch ati i dalu sylw - gwnewch yn siŵr ymlaen llaw bod dim i dynnu’ch sylw. Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych cyn ac yn ystod y sesiwn, yna cysylltwch â’ch darlithydd os na chewch ateb yn ystod y sesiwn.
  • Byddwch yn barchus - Peidiwch ag ysgrifennu na dweud unrhyw beth yn ystod sesiwn ar-lein na fyddech yn ei ddweud wyneb yn wyneb. Yn debyg, peidiwch â llenwi’r blwch sgwrsio gyda sgwrs amherthnasol – mae hyn yr un peth â siarad yn ystod sesiwn addysgu.

Cydweithio

Cysylltu a dysgu gydag eraill ar-lein

Un o agweddau mwyaf pwysig mynychu prifysgol yw dod yn rhan o gymuned y brifysgol. Hyd yn oed pan fyddwch yn gweithio oddi ar y campws, rydym am i chi allu creu perthynas a chyfeillgarwch gyda staff a myfyrwyr ac i gydweithio’n effeithiol.

Isod, rydym yn edrych ar yr offer y gallwch eu defnyddio i gyfathrebu a rhann:

Bydd gan lawer o’ch modylau sydd ar Moodle fyrddau trafod lle gallwch bostio cwestiynau neu siarad am wahanol agweddau ar eich cwrs. Mae hwn yn le gwych i drafod pynciau sy’n benodol i’ch modwl a chysylltu gyda myfyrwyr eraill ar eich cwrs.

Bydd y rhan fwyaf o gyrsiau yn defnyddio Teams yn helaeth yn rhan o sesiynau addysgu ar-lein sydd wedi’u trefnu, ac mae’n arf amhrisiadwy ar gyfer cyfathrebu a chydweithio. Mae’n caniatáu i chi gysylltu ag unigolion a grwpiau ar draws y brifysgol naill ai drwy fideo, neges wib, neu o fewn sianelau trafod.

Mae'r fideo hwn yn rhoi trosolwg syml da ar sut i ddefnyddio Teams fel myfyriwr.

Am ragor o wybodaeth, a dolenni â fideos ac adnoddau ar-lein, ewch i’n tudalen adnoddau Teams pwrpasol

Er y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd â defnyddio e-bost i gyfathrebu, efallai mai dim ond nawr ac yn y man mae eraill ohonoch yn ei ddefnyddio. Yr hyn sydd wir yn bwysig yw eich bod yn mynd i’r arfer o ddefnyddio a gwirio eich cyfrif YDDS yn rheolaidd. Nid yn unig mai hwn yw un o’r ffyrdd hawsaf i gysylltu â staff a myfyrwyr eraill, ond hwn hefyd yw un o’r prif ffyrdd y bydd y Brifysgol yn anfon gwybodaeth atoch.

Byddwn hefyd yn eich annog i ddefnyddio’r calendr ar Outlook, nid yn unig i helpu i drefnu eich amser eich hun, ond i drefnu apwyntiadau gydag eraill a gwirio argaeledd staff a myfyrwyr eraill.

Edrychwch ar yr adnodd Microsoft ar gyfer Outlook

Mae gwasanaeth OneDrive y Brifysgol yn rhoi 1TB o le ar-lein personol i chi storio ffeiliau, sy’n rhoi lle diogel a sefydlog i chi gadw a rhannu dogfennau.

Edrychwch ar y dudalen adnodd Microsoft hon am ragor o wybodaeth.

Mae cymwysiadau Office 365 yn rhoi’r gallu i chi rannu a chyd-ysgrifennu dogfennau gydag unigolion neu grwpiau eraill. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer bob math o waith grŵp, boed hynny’n grwpiau astudio modwl neu’n brosiectau ymchwil cydweithredol.

Am ragor o wybodaeth ar ddefnyddio Office 365 fel hyn, gweler: Best practices for collaborating with Microsoft 365

Gall cysylltu gydag eraill drwy sgrin cyfrifiadur deimlo’n wahanol i weithio gyda nhw wyneb yn wyneb. Weithiau gall hyn arwain at gamddealltwriaeth neu hyd yn oed wrthdaro. Mae’n bwysig bod yn ymwybodol o hyn a gwneud yn siŵr bod gweithio gydag eraill ar-lein yn parhau i fod yn brofiad positif.

Dyma rai canllawiau hanfodol ar gyfer gweithio gydag eraill mewn amser real:

  • Byddwch yn ystyriol - Ceisiwch roi cyfle i bawb siarad neu gyfrannu. Ystyriwch roi eich microffon ar ‘fud’ pan nad ydych yn siarad.
  • Byddwch yn barchus - efallai bod eich barn yn wahanol, ond mae’n bwysig parchu safbwyntiau eraill.
  • Daliwch ati i ffocysu - Peidiwch â gadael i bethau eraill ar eich cyfrifiadur neu yn eich ystafell dynnu eich sylw. Wrth siarad, ceisiwch gadw at y pwnc dan sylw.
  • Canolbwyntiwch - gall cadw eich camera ymlaen i ddangos eich bod chi yno ac yn talu sylw helpu gyda hyn.
  • Byddwch yn ymwybodol o’r hyn rydych yn ei rannu - Meddyliwch am beth mae pobl eraill yn gallu ei weld pan fyddwch ar fideo neu’n rhannu eich sgrîn. Gallwch ddefnyddio cefndir galwadau fideo. Yn debyg, dylech barchu preifatrwydd pobl eraill o hyd.

Os ydych chi’n cyfathrebu’n anghydamseredig (felly ddim o reidrwydd ar yr un amser ag eraill) – er enghraifft, defnyddio byrddau neges, e-bost, neu ddogfennau cydweithredol – dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i gyfathrebu’n fwy effeithiol:

  • Defnyddiwch iaith yn barchus - Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar-lein na fyddech yn ei ddweud wyneb yn wyneb.
  • Rhowch amser i bobl ymateb - Nid yw gweithio ar-lein yn golygu y bydd pobl ar gael 24/7. Er enghraifft, er y gallwch anfon e-bost at staff unrhyw bryd, ni ddylech ddisgwyl iddynt ymateb tu allan i’w horiau gwaith arferol.
  • Cofiwch ymuno - Ceisiwch gyfrannu drwy bostio sylwadau, gofyn neu ateb cwestiynau, neu drwy rannu rhywbeth rydych wedi’i ddysgu.
  • Cadwch mewn cysylltiad - os ydych i fod i weithio gydag eraill, gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i gyfathrebu â nhw – er enghraifft drwy roi diweddariadau ar gynnydd.

Astudio

Gweithio ar-lein a defnyddio adnoddau digidol

Efallai na fydd rhai elfennau o astudio ar-lein yn rhy annhebyg i’r ffordd rydych wedi gweithio yn y gorffennol. Mae’n siŵr eich bod yn gyfarwydd â chwilio am wybodaeth ar-lein a defnyddio cymwysiadau swyddfa cyffredin i ysgrifennu traethodau, adroddiadau neu aseiniadau.

Yma yn PCYDDS mae gennym gyfoeth o adnoddau dysgu arbenigol ar gael i chi, gan gynnwys e-lyfrau, cyfnodolion ar-lein, erthyglau papur newydd, rhaglenni teledu a mwy. Mae'n hanfodol eich bod yn gwybod sut i gael mynediad atynt a sut i'w defnyddio'n effeithiol yn eich astudiaethau.

Bydd disgwyl i chi hefyd ddefnyddio technoleg i gael mynediad i ddarlithoedd, ysgrifennu aseiniadau, cydweithio â'ch darlithwyr a myfyrwyr eraill a chyflwyno'ch asesiadau.Gallwn eich helpu i asesu eich lefelau sgiliau a'u datblygu yn ôl yr angen.

Gallwch ddefnyddio ein llyfrgelloedd i fenthyg eitemau print a chael mynediad i adnoddau digidol. Mae gan bob myfyriwr gyfrif llyfrgell yn awtomatig a gallwch fewngofnodi o hafan y Llyfrgell i reoli eich benthyciadau a chadw eitemau, gan ddefnyddio’ch mewngofnodiad PCYDDS.

Edrychwch ar ein tudalen Hanfodion Myfyrwyr, sy'n rhoi'r wybodaeth bwysicaf y bydd ei hangen arnoch i gefnogi'ch astudiaethau. Ewch i'r Canllawiau Dechrau Arni am gyngor sy'n berthnasol i'ch maes astudio.

Ar lefel prifysgol, disgwylir y bydd rhan fawr o'ch dysgu yn cael ei wneud trwy ymchwil annibynnol, yn hytrach na thrwy addysgu wyneb yn wyneb yn unig. Gall hyn gynnwys darllen, gwylio fideos, edrych ar ystadegau a chael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddar yn eich maes. Felly, bydd angen i chi reoli'ch ymchwil a'i wneud yn rhan o'ch amserlen astudio.

Dylai eich Rhestrau Adnoddau Ar-lein gynnwys yr adnoddau darllen hanfodol a phellach ac adnoddau dysgu eraill ar gyfer eich modiwlau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble i ddod o hyd i'ch rhestrau adnoddau ar-lein, a sut i gael mynediad at y deunydd ar eich rhestrau gan mai dyma'ch man cychwyn.

Gallwch ddefnyddio'r adnoddau Academaidd a Sgiliau Gwybodaeth i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau dod o hyd i wybodaeth a'i defnyddio; o’r mathau o adnoddau y disgwylir i chi eu defnyddio’r holl ffordd i feddwl yn feirniadol a gwerthuso.

Bydd angen i chi hefyd allu cyfeirio'ch ffynonellau'n gywir felly edrychwch ar eich llawlyfr cyfeirio a'r gwahanol offer a chymorth sydd ar gael i'ch helpu.

Dyma rai o’r offer y gallwch eu defnyddio i helpu i wneud astudio ar-lein, cymryd nodiadau, a threfnu eich gwaith yn fwy effeithiol:

Efallai y bydd eich astudio yn llai effeithiol os na fyddwch yn cymryd yr amser i baratoi'n iawn. Dyma rai awgrymiadau i helpu i wella eich amgylchedd gwaith a lleihau ymyriadau posibl:

  • Ceisiwch ddewis y lle gorau i weithio – Yn ddelfrydol, ceisiwch wneud yn siŵr eich bod yn gosod eich ardal astudio mewn man lle gallwch weithio'n gyfforddus a heb ymyrraeth, wrth geisio cadw'ch man gwaith yn lân ac yn daclus.
  • Dewiswch yr amser iawn i weithio – Nid oes amser "cywir" i astudio, ond dylech geisio dewis astudio pan fyddwch yn canolbwyntio ac yn sylwgar. Mae hyn yn golygu ceisio osgoi adegau pan fyddwch chi wedi blino, yn newynog neu'n debygol o gael eich aflonyddu gan bobl eraill. Ni fydd hyn bob amser yn bosibl ond eto, ceisiwch ddewis yr amser gorau i chi.
  • Meddyliwch cyn lleied â phosibl - Wrth weithio, dim ond yr offer sydd ei angen arnoch sydd gennych. Po fwyaf o bethau sydd gennych o'ch cwmpas, y mwyaf o gyfle y gall eich meddwl grwydro a thynnu'ch sylw.
  • Diffoddwch eich hysbysiadau - Cyn i chi ddechrau gweithio dylech, o leiaf, droi eich ffôn yn dawel. Os oes angen i chi ganolbwyntio, dylech ddiffodd pob hysbysiad.
  • Amserlenni egwyl - Bydd cymryd seibiannau rheolaidd yn eich helpu i gadw'n ffres, yn effro a byddwch yn canolbwyntio mwy.

Asesu

Cwblhau a chyflwyno eich aseiniadau

Byddwch yn cwblhau a chyflwyno gwaith asesedig drwy gydol eich modylau. Felly, mae’n bwysig deall y gwahanol fathau o asesiad y gallai fod angen i chi eu cwblhau, a gwybod beth a ddisgwylir gennych o ran bodloni terfynau amser a chyflwyno gwaith.

Mae’n debyg na fydd llawer o’r mathau traddodiadol o asesu yn teimlo’n wahanol iawn wrth weithio ar-lein. Er enghraifft, wrth ysgrifennu traethodau, adolygiadau llenyddiaeth, adroddiadau neu lyfryddiaethau anodedig y gwahaniaeth fwyaf, mae’n debyg, fydd sut rydych yn cyrchu’r adnoddau ar gyfer eich ymchwil, nid sut rydych yn cwblhau’r gwaith.

Lle bydd gwahaniaeth i’w weld fydd mewn perthynas ag arholiadau ffurfiol, asesiadau ymarferol, arholiadau llafar, a chyflwyniadau. Bydd sut y caiff y rhain eu cynnal yn amodol ar eich athrofa a modwl penodol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio’ch llawlyfr, trosolwg y modwl neu’n siarad gyda’ch tiwtor personol.

Os gofynnir i chi gyflwyno gwaith ysgrifenedig drwy Moodle, mae’n debyg y byddwch yn defnyddio Turnitin, ein platfform ar gyfer cyflwyno aseiniadau a darparu adborth.

Gwasanaeth ar-lein yw Turnitin sy’n galluogi Prifysgolion a darlithwyr i gymharu aseiniadau eu myfyrwyr gydag ystod o ffynonellau electronig, gan gynnwys gwaith myfyrwyr eraill. Mae’r gwasanaeth yn arf gwerthfawr wrth helpu sefydliadau, staff a myfyrwyr i atal a datgelu llên-ladrad. Gallwch gyrchu Turnitin drwy Moodle.

Am ragor o wybodaeth ar Turnitin ewch i’r ddolen hon a hefyd ewch yma ar gyfer eich Llawlyfr Ansawdd Academaidd.

Rhestr Wirio

Cadw golwg ar eich cynnydd

Mae llawer o wybodaeth yn yr adnodd hwn, felly rydyn ni wedi creu rhestr wirio y gallwch ei hargraffu i gadw golwg ar eich cynnydd wrth i chi weithio trwy bob un o’r adrannau.

Cliciwch y botwm lawrlwytho isod i gadw copi.

Lawrlwytho’r rhestr wirio