Cysylltu

1. Gosod eich cyfrifiadur

Pa gyfrifiadur bynnag rydych chi’n ei ddefnyddio, mae angen i chi fod yn hyderus y bydd yn bodloni gofynion eich gwaith a’ch astudiaeth drwy gydol eich cwrs. Rydym wedi amlinellu isod y gofynion cyffredinol sylfaenol, yn ein barn ni (mae’n bosibl y bydd gan rai Athrofeydd ofynion ychwanegol ar gyfer cyrsiau penodol, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau hynny gyda’ch tiwtor personol a thrwy ddarllen eich llawlyfr):

Ar gyfer cyfrifiaduron bwrdd gwaith neu liniaduron Windows, rydym yn argymell y canlynol:

  • Windows 10 Home neu uwch
  • Prosesydd i5
  • 8Gb RAM
  • Disg caled 512 GB SSD (o leiaf 256GB)
  • Gwe-gamer
  • Meicroffon
  • Seinyddion/clustffonau
  • Wi-Fi band deuol ymgorfforedig neu ddongl (cydnaws â 2.4GHz a 5GHz)

Ar gyfer cyfrifiaduron bwrdd gwaith neu liniaduron Mac, rydym yn argymell y canlynol:

  • OS X 10.13 neu uwch
  • Prosesydd i5
  • 8Gb RAM
  • Disg caled 512 GB SSD
  • Gwe-gamera
  • Meicroffon
  • Seinyddion/clustffonau
  • Wi-Fi band deuol ymgorfforedig neu ddongl (cydnaws â 2.4GHz a 5GHz)

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar sut i osod nodweddion hygyrchedd eich cyfrifiadur yma: Help i wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio

Fel myfyriwr yn YDDS mae gennych hawl i nifer o fargeinion TG, sy’n cynnwys uwchraddio am ddim i Windows 10 Education ar gyfer eich dyfais bersonol a mynediad at raglenni Office 365.

Fel myfyriwr gallwch hefyd gael caledwedd am bris gostyngol gan gwmnïau megis Microsoft ac Apple. Edrychwch ar y dudalen Bargeinion TG trwy’r ddolen uchod am ragor o wybodaeth.

Yn achos myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol, mae’r Brifysgol yn cynnig bwrsari Cysylltedd Digidol sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser sydd wedi cofrestru yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys darparu dyfais Microsoft Surface Go 2 YDDS, ynghyd â hyd at £100 y flwyddyn i gynorthwyo gyda gwasanaethau band eang cartref/symudol.
Ewch i www.uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau am ragor o fanylion.

2. Cysylltu

Eich cyfrifiadur yw’ch ffordd o fynd i ddarlithoedd ar-lein, cydweithio a chysylltu â staff a myfyrwyr, pori ein llyfrgelloedd, a chwblhau asesiadau. Felly, mae’n hanfodol fod gennych fynediad digonol i’r rhwydwaith a’r offer angenrheidiol i gymryd rhan yn llawn mewn gwersi.

Isod rydym yn nodi ein hargymhellion i’ch helpu i gael popeth yn ei le:

Byddem yn argymell cyflymder rhyngrwyd o 3Mb/s neu gyflymach. Gallwch brofi pa mor gyflym yw eich cysylltiad presennol trwy fynd i www.thinkbroadband.com/speedtest. Gallwch hefyd wirio pa gyflymder dylech fod yn ei gael trwy roi eich cod post yma www.thinkbroadband.com/packages.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio a oes cyfyngiadau data ar eich gwasanaeth – gall ffrydio gwasanaethau megis Netflix neu Spotify lyncu eich data’n gyflym, neu arafu eich gwasanaeth os ydynt yn cael eu defnyddio ar yr un pryd.

Os ydych chi eisiau sicrhau cysylltiad cyflym a di-dor, mae fel arfer yn well cysylltu’n uniongyrchol â’ch llwybrydd rhyngrwyd gan ddefnyddio cebl ether-rwyd yn hytrach na chysylltu trwy Wi-Fi. Os byddwch chi’n cysylltu trwy Wi-Fi, efallai y bydd o gymorth i chi weithio mor agos at y llwybrydd â phosibl.

Os ydych chi eisiau gwella cyflymder eich rhyngrwyd gartref, neu’n meddwl bod gennych broblem, mae’r ddolen hon i wefan thinkbroadband yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i’w dilyn.

I gael rhagor o wybodaeth am gysylltiadau rhwydwaith cartref, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am wella cyflymder eich rhwydwaith cartref, ewch i’n tudalen ddefnyddiol ar gysylltiadau rhyngrwyd cartref..

Os ydych chi’n gweithio ar gampws, gallwch gysylltu eich dyfeisiau â rhwydwaith diwifr eduroam..

Bydd angen gwe-gamera arnoch i weithio ar-lein. Fel arfer, mae gan y rhan fwyaf o liniaduron modern gamera yn rhan ohonynt, ond ar gyfer cyfrifiaduron bwrdd gwaith mae’n debygol y bydd angen i chi brynu un ar wahân.

Y safle delfrydol ar gyfer eich camera yw ar yr un uchder â’ch llygaid. Os oes gennych chi liniadur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio codwr gliniadur i godi uchder y gwe-gamera sydd arno (bydd llyfrau’n gwneud y tro yn iawn). Os oes gennych we-gamera allanol, mae’n bosibl fel arfer clipio hwn i dop eich monitor.

Mae'n bwysig bod pobl yn gallu eich gweld wrth gyfathrebu ar-lein, felly peidiwch â bod â’ch cefn at ffenestr na golau. Gall hyn achosi i’ch camera hunanaddasu a thywyllu’r ddelwedd, gan eich rhoi yn y cysgod.

Fel gyda chamerâu, bydd gan y rhan fwyaf o liniaduron modern feicroffon a seinyddion yn rhan ohonynt a fydd yn ddigon ar gyfer defnydd sylfaenol. Fodd bynnag, os ydych chi’n mynd i gymryd rhan mewn seminarau a gweithio ar-lein gydag eraill efallai y bydd clustffonau yn fwy effeithiol.

Nid oes gennym argymhellion penodol ar gyfer clustffonau, ond efallai y byddech eisiau ystyried y canlynol:

  • Microsoft LifeChat LX 3000
  • Sennheiser PC 5
  • Mpow 071

Fel y nodwyd, yn achos myfyrwyr sy’n wynebu caledi ariannol, mae’r Brifysgol yn cynnig bwrsari Cysylltedd Digidol sydd ar gael i fyfyrwyr llawn amser a rhan amser sydd wedi cofrestru yn y Drindod Dewi Sant. Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys darparu dyfais Microsoft Surface Go 2 YDDS, ynghyd â hyd at £100 y flwyddyn i gynorthwyo gyda gosod band eang cartref/symudol. Ewch i wwww.uwtsd.ac.uk/cy/bwrsariaethau/ am ragor o fanylion.

3. Lawrlwytho’r feddalwedd

Ar ôl i chi osod eich cyfrifiadur, bydd angen i chi sicrhau bod ganddo’r feddalwedd gywir. Yn gyntaf gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio porwr gwe cyfoes (megis Chrome, Firefox, Edge, neu Safari) a’i fod wedi’i ddiweddaru.

Rydym yn argymell eich bod yn gosod o leiaf ddau o’r porwyr hyn gan na fydd pob gwefan neu ap yn gweithio’r un fath ar bob porwr.

Nesaf, gallwch osod y rhaglenni craidd canlynol:

Fel myfyriwr yn YDDS, gallwch gael mynediad i raglenni Office 365 ar-lein (gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, Teams, Publisher, Access ac Outlook) trwy eich cyfrif Office 365 yn eich porwr.

Gallwch hefyd lawrlwytho a gosod y gyfres o raglenni i’ch cyfrifiadur bwrdd gwaith neu ddyfais symudol. Ewch i’n tudalenMicrosoft 365 a dilyn y cyfarwyddiadau lawrlwytho.

Mae manylion ar osod nodweddion hygyrchedd Office 365 a gweithio gyda thechnolegau cynorthwyo ar gael yma: Accessible Office 365.

Mae Teams yn adnodd cyfathrebu a chydweithio gan Microsoft. Caiff ei ddefnyddio mewn gweithgareddau addysgu wyneb yn wyneb rhithwir ac ystafelloedd dosbarth cydweithredol tra byddwch yn y Drindod Dewi Sant.

Gallwch ddefnyddio Teams fel ap ar-lein trwy https://teams.microsoft.com/, ond mae’n syniad da lawrlwytho’r ap bwrdd gwaith. Ewch i dudalen Teams Microsoft a chlicio ar y ddolen lawrlwytho.

Yn ogystal mae gennym wefan Microsoft Teams sy’n cynnwys gwybodaeth bellach am Teams gan gynnwys dolenni at yfforddiant a chanllawiau ar-lein.

Mae manylion am osod nodweddion hygyrchedd Teams ar gael yma: Cymorth hygyrchedd ar gyfer Microsoft Teams.

Bydd angen i chi sicrhau bod eich cyfrifiadur wedi’i ddiogelu rhag feirysau ar-lein trwy ddefnyddio meddalwedd gwrth-feirws briodol

Gallwch hefyd gysylltu o bell â chyfrifiadur ar y campws, sy’n darparu mynediad uniongyrchol i’r holl feddalwedd a’r gwasanaethau sydd ar gael ar y cyfrifiadur hwnnw.

Ceir rhagor o wybodaeth yma am gael mynediad o bell i gyfrifiaduron ar y campws.

Byddwn yn sôn yn fanylach am sut i ddefnyddio’r rhaglenni hyn a pham maen nhw’n bwysig ar gyfer dysgu yn yr adran.

4. Gosod yr apiau symudol

Mae ffonau symudol a chyfrifiaduron llechen yn ategiad da i weithio’n ddigidol, ond ni ddylech eu defnyddio fel eich prif ddyfeisiau ar gyfer astudio. Dyma’r apiau allweddol y gallwch eu gosod i ddechrau arni:

Mae ap Hwb Myfyrwyr YDDS (UWTSD Hwb) yn rhoi mynediad cyflym i chi i wybodaeth bwysig megis amserlenni, gwybodaeth am Gyllid, Gwasanaethau Myfyrwyr, Chatbot a newyddion myfyrwyr. I fyfyrwyr newydd mae hefyd yn cynnwys rhestr wirio i fyfyrwyr newydd a gwybodaeth gynefino.

Gellir lawrlwytho’r ap trwy’r dolenni isod ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan Hwb Myfyrwyr.

Mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost YDDS a’ch cyfrinair i ddechrau arni.

Gallwch hefyd gael mynediad i’r platfform pan fyddwch yn agor y porwr ar unrhyw gyfrifiadur campws neu trwy fynd hwb.uwtsd.ac.uk

Gallwch lawrlwytho’r ap Microsoft Authenticator i’w ddefnyddio gyda phroses Ddilysu Aml-ffactor (MFA) y Brifysgol.

Mae Dilysu Aml-ffactor yn rhoi haen ychwanegol o ddiogelwch wrth gael mynediad i systemau TG y Brifysgol ac mae’n sicrhau bod eich cyfrif Prifysgol yn fwy diogel trwy eich amddiffyn chi a’r Brifysgol petai eich enw defnyddiwr a chyfrinair mewn perygl.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddilysu Aml-ffactor ewch i wefan y Brifysgol.

5. Gosod nod tudalen i’r tudalennau hyn

Mae nifer o wefannau y byddwch yn eu defnyddio’n rheolaidd fel myfyriwr yn y Drindod Dewi Sant, felly mae’n syniad da gosod nod tudalen i’r tudalennau hyn sy’n ymwneud â Dysgu Digidol fel nad ydych yn gorfod chwilio am y cyfeiriadau:

Rhestr Wirio

Cadw golwg ar eich cynnydd

Mae llawer o wybodaeth yn yr adnodd hwn, felly rydyn ni wedi creu rhestr wirio y gallwch ei hargraffu i gadw golwg ar eich cynnydd wrth i chi weithio trwy bob un o’r adrannau.

Cliciwch y botwm lawrlwytho isod i gadw copi.

Lawrlwytho’r rhestr wirio