Adnoddau
Sgiliau Astudio

Cyflwyniad

Efallai eich bod yn gyfarwydd â dysgu ar-lein yn barod, neu gallai hwn fod yn fyd dewr newydd i chi. Naill ffordd, er mwyn ffynnu, mae angen i chi ddod yn gyffyrddus â dysgu’n annibynnol o fewn fframwaith trosfwaol cefnogol. Mae hyn yn golygu cadw i fod yn gryf eich cymhelliad a sefydlu a chadw at drefn a datblygu eich sgiliau rheoli amser.

Mae’n hanfodol hefyd eich bod yn deall yr hyn a ddisgwylir ohonoch pan fyddwch yn astudio ar lefel brifysgol gan wybod sut y gallwch fodloni’r disgwyliadau hyn. Mae hyn yn cynnwys darllen ac ymchwilio, sgiliau gwybodaeth, meddwl yn ddadansoddol ac yn feirniadol, ac ysgrifennu i safon academaidd.

I’ch helpu chi gyda hyn, mae gennym fynediad i amrywiaeth eang o adnoddau sy’n cynnig cyfarwyddyd a chymorth y gallwch eu defnyddio i atgyfnerthu eich sgiliau astudio a sicrhau eich bod yn cyflawni popeth yr ydych yn gallu ei wneud.

Cymorth Sgiliau Astudio

(drwy Wasanaethau Myfyrwyr)

Mae cymorth sgiliau astudio ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd angen help wrth astudio.

Mireiniwch eich sgiliau astudio a chyflawnwch eich gorau glas, o lefel sylfaen i lefel ôl-raddedig. Cynigir cymorth gydag ymchwilio, cyfeirnodi, osgoi llên-ladrad, ysgrifennu academaidd, cynllunio, trefnu ac adolygu ar gyfer arholiadau.

Llunnir y cymorth hwn i ychwanegu at yn hytrach na chymryd lle’r addysgu pwnc-benodol a’r cyngor a ddarperir gan diwtoriaid academaidd.

Ymwelwch â’n Tudalen Cymorth Sgiliau Astudio am ragor o wybodaeth.

Academaidd a Sgiliau Gwybodaeth

Mae ein rhaglen Academaidda a Sgiliau Gwybodaeth wedi’i dylunio i greu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau academaidd a gwybodaeth trosglwyddadwy, gan hwyluso eu llwyddiant academaidd a chyflogadwyedd.

O nodi gwahanol fathau o adnoddau dysgu a defnyddio cronfeydd data academaidd i gyfeirnodi, llên-ladrad, meddwl yn feirniadol a rheoli eich dyfyniadau, mae gan raglen InfoSkills rywbeth i chi.

Bydd rhai sesiynau yn cael eu harchebu gan eich tiwtor cwrs/modiwl, yn enwedig yn ystod tymor cyntaf eich astudiaethau, ond rydym wedi rhoi cyfoeth o gymorth ar-lein at ei gilydd i’ch galluogi i ddatblygu eich sgiliau ar amser sy’n gyfleus i chi. Gallwch gael mynediad at hyn i gyd ar-lein.  Gallwch hefyd ofyn i ni am help; cysylltwch â'ch Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd neu anfon neges atom ar ein sgwrs rithwir. 

Canolfan Gyrfaoedd YDDS

Yn ogystal â’r adnoddau uchod, cewch, fel un o fyfyrwyr Y Drindod Dewi Sant, fynediad i’n gwasanaeth Canolfan Gyrfaoedd newydd.

Mae’r ganolfan gyrfaoedd yn darparu nifer o wasanaethau gyrfaoedd megis cyngor gyrfaoedd, offer, e-ddysgu ac asesiadau. Ond mae hefyd yn cynnwys adnoddau sy’n ymwneud â chyflogadwyedd a datblygu eich sgiliau mewn meysydd gwahanol megis rheoli amser a chynhyrchiant, Meddwl yn Feirniadol, datrys problemau a gwneud penderfyniadau, a sgiliau cyflwyno.

Ymwelwch â’n safle Canolfan Gyrfaoedd a mewngofnodwch gyda’ch e-bost a chyfrinair Prifysgol am fwy o wybodaeth.

Rhestr Wirio

Cadw golwg ar eich cynnydd

Mae llawer o wybodaeth yn yr adnodd hwn, felly rydyn ni wedi creu rhestr wirio y gallwch ei hargraffu i gadw golwg ar eich cynnydd wrth i chi weithio trwy bob un o’r adrannau.

Cliciwch y botwm lawrlwytho isod i gadw copi.

Lawrlwytho’r rhestr wirio